Yr ydych yma: Hafan > Artistiaid > Dorian Spencer Davies
Ganed Dorian Spencer Davies yng Nghaerfyrddin ac fe'i magwyd yn Sir Benfro. Roedd celf yn mynd â'i fryd ers pan yn blentyn, ac aeth ymlaen i astudio Darlunio Astudiaeth Natur yng Ngholeg Celf Caerfyrddin. Gyda'i ddiddordeb brwd mewn natur yn ogystal â Chelf, gallai yma gyfuno'i ddau ddiddordeb, ac mae dylanwadau'r môr ac arfordir Cymru yn amlwg yn ei waith. Mae galw mawr amdano bellach ymysg ysgolion ar hyd a lled Cymru, ac mae'n cymryd rhan mewn llawer o weithdai i blant.
© Hawlfraint 2019 Tonnau - Gwefan gan Delwedd