Mae Oriel Tonnau i’w chanfod yng nghalon hen dref farchnad Pwllheli, sydd â chysylltiad agos â’r môr ers dros 800 mlynedd. Roedd yn naturiol i Llio Meirion a Myrddin ap Dafydd y perchnogion roi thema’r ‘môr’ i’r oriel wrth agor ei drysau yn 2006. Mae yno bellach gasgliad helaeth o gelf cyfoes – lluniau gwreiddiol, tecstiliau, ffotograffau, crefft, cardiau a gemwaith.
Bwriad yr oriel yw cyflwyno doniau creadigol Cymru a gwneud y profiad hwnnw mor ddeniadol a phleserus â phosib. Mae’n adeilad hirfain, traddodiadol yn Stryd Penlan (a fu’n siop baent a ffatri wlân cyn hynny), gyda digon o waliau arddangos wedi eu goleuo’n braf.
Gyda phedwar arlunydd yn cyflwyno arddangosfa arbennig sy’n cael ei newid deirgwaith y flwyddyn, mae rhywbeth newydd i’w weld a’i fwynhau yno yn rheolaidd. Mae yma le paned i ymlacio ac mae’r oriel ar un lefel, gyda mynediad addas I gadeiriau olwyn.
Mae nifer o’r artistiaid sydd gennym ar ein llyfrau yn derbyn comisiynau – felly os na welwch yr union beth yn yr oriel, holwch beth sy’n bosib. Gallwch brynnu rhai pethau drwy ein Siop Ar-Lein, ond os cewch gyfle i alw heibio, gobeithio y gwnewch fwynhau’r awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
© Hawlfraint 2025 Tonnau - Gwefan gan Delwedd